Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 25 Chwefror 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.15 - 12.15 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC Jeff Cuthbert AC Byron Davies AC Keith Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Eluned Parrott AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Julie James AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Maggi Dawson, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA Cymru) Nick Lee, Llywodraeth Cymru Huw Morris, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Jeff Protheroe, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Dr Greg Walker, ColegauCymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Rachel Jones (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Elis-Thomas a Gwenda Thomas.
2 Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl Dros 50 Oed - ColegauCymru ac WEA Cymru
2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Greg Walker a Maggi Dawson MBE.
3 Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl Dros 50 Oed - Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeff Protheroe, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
3.2 Cytunodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i ofyn i’w darparwyr i ba raddau y maent yn ymwneud â rhaglen Esgyn.
4 Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl Dros 50 Oed
4.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
4.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu nodyn ar nifer y bobl dros 50 oed sy’n ymgymryd â rhaglenni Llywodraeth Cymru.
4.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu nodyn ynghylch unrhyw asesiadau sydd wedi’u cynnal ar effaith penderfyniadau i flaenoriaethu cymorth i bobl ifanc ar bobl dros 50 oed.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i'r Cadeirydd ynghylch Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau
5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
5.2 Gwybodaeth ychwanegol oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ynghylch diweddariad ar yr UE
5.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
5.3 Gwybodaeth ychwanegol oddi wrth y Ganolfan Byd Gwaith a Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
5.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
5.4 Gwybodaeth ychwanegol oddi wrth Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch tocynnau integredig, cydymffurfedd â PRM-TSI a cherbydau
5.4.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
5.5 Cyflwyniad Maes Awyr Heathrow
5.5.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7 Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i edrych ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith yn y cyfarfod ffurfiol nesaf.